Zonia Bowen
Zonia Bowen | |
---|---|
Ganwyd | Zonia North 23 Ebrill 1926 Ormesby St Margaret |
Bu farw | 18 Mawrth 2024 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Priod | Geraint Bowen |
Perthnasau | Gwilym Bowen Rhys |
Awdures a rhydd-feddylwraig o Gymru oedd Zonia Margarita Bowen (née North; 23 Ebrill 1926 – 18 Mawrth 2024).[1] Sefydlodd y mudiad Merched y Wawr yn 1967, gyda chymorth Sylwen Davies a chriw o ferched Sefydliad y Merched o'r Parc, y Bala. Er bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau Sefydliad y Merched ar y pryd yn yr ardaloedd yma yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg nid oedd y sefydliad yn cydnabod y Gymraeg yn eu dogfennau ysgrifenedig a'u nwyddau.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Bowen yn Ormesby St. Margaret, Norfolk, Lloegr. Astudiodd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor ac yno dechreuodd ddysgu Cymraeg. Yn ddiweddarach, dysgodd Lydaweg hefyd a chyhoeddodd lyfrau dysgu Llydaweg cyfrwng Cymraeg.
Cred bod "pob duw a phob crefydd yn ffrwyth dychymyg"; geilw ei hun yn 'rhydd-feddylwraig' (free-thinker) yn ogystal ag 'anffyddwraig' neu 'ddyneiddwraig'. Bu'n briod â'r Prifardd Geraint Bowen (1915–2011). Roedd ei gŵr yn Archdderwydd o 1978–1981 ac ef awgrymodd yr enw i Fudiad Merched y Wawr.
Cafodd ei magu yn Heckmondwike, Swydd Efrog, a bu'n byw am flynyddoedd ger Llyn Mwyngil, cyn symud i fyw yng Nghaeathro ger Caernarfon. Yn 2015 cyhoeddodd hunangofiant, lle mae hi'n sôn am sefydlu Merched y Wawr,[3] a pham yr ymddiswyddodd fel Llywydd wedi deng mlynedd fel swyddog o'r mudiad. Dywedodd wrth ei sefydlu na ddylai'r mudiad fod ag unrhyw gysylltiad â chrefydd na gwleidyddiaeth "ond ei fod ar agor i bawb, ar yr un termau" a derbyniwyd hynny gan aelodau'r Cyngor Cenedlaethol. Disgrifiwyd y mudiad o'r cychwyn fel 'mudiad seciwlar'. Roedd hefyd yn weithgar gyda mudiad Dyneiddwyr Cymru.
Teulu
[golygu | golygu cod]Ganwyd pedwar o blant i Zonia a Geraint sef Rhys, Nia, Siân a Steffan. Ffurfiodd tri o'i hwyrion Y Bandana, prif grwp roc Y Selar yn 2017 ac mae cerddoriaeth yn gryf yng ngwaed y teulu gan bod Gwilym Bowen Rhys hefyd mewn grŵp gwerin poblogaidd o'r enw Plu gyda'i chwiorydd Elan a Marged.[2][2]
Bu farw yn 97 mlwydd oed ym Mawrth 2024.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ymhlith ei llyfrau y mae:
- Dy bobl di fydd fy mhobl i; Gwasg y Lolfa, 2015 - hunangofiant Zonia Bowen
- Traed ar y ddaear; CAA, 1995
- Yec'hed Mat - Iechyd Da! Cyhoeddwyd gan Gwasg y Lolfa, Rhagfyr 1980
- Y dyddiau cynnar; Llyfrau'r Faner, ar ran Merched y Wawr, 1977
- Llydaweg i'r Cymro; Llyfrau'r Faner, 1977
- Merched y Wawr; Llyfrau'r Faner, ar ran Merched y Wawr, 1977
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Sefydlydd Merched y Wawr Zonia Bowen wedi marw". newyddion.s4c.cymru. 2024-03-18. Cyrchwyd 2024-03-18.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Dy bobl di fydd fy mhobl i; Gwasg y Lolfa, 2015 - hunangofiant Zonia Bowen
- ↑ Gwefan Cymru Fyw, y BBC; adalwyd 5 Chwefror 2015
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llyfrgell Genedlaethol Cymru:Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr) ar wefan Archif Cymru